14 Ac efe a wnaeth byst o drigain cufydd, a hynny hyd bost y cyntedd, o amgylch ogylch y porth.
15 Ac o wyneb porth y dyfodiad i mewn, hyd wyneb cyntedd y porth oddi mewn, yr oedd deg cufydd a deugain.
16 A ffenestri cyfyng oedd i'r ystafelloedd, ac i'w pyst o fewn y porth o amgylch ogylch; ac felly yr oedd i'r bwâu meini: a ffenestri oedd o amgylch ogylch o fewn; ac yr oedd palmwydd ar bob post.
17 Ac efe a'm dug i'r cyntedd nesaf allan, ac wele yno ystafelloedd, a phalmant wedi ei wneuthur i'r cyntedd o amgylch ogylch; deg ystafell ar hugain oedd ar y palmant.
18 A'r palmant gan ystlys y pyrth ar gyfer hyd y pyrth, oedd y palmant oddi tanodd.
19 Ac efe a fesurodd y lled o wyneb y porth isaf hyd wyneb y cyntedd oddi fewn, yn gan cufydd oddi allan tua'r dwyrain a'r gogledd.
20 A'r porth yr hwn oedd â'i wyneb tua'r gogledd, ar y cyntedd nesaf allan, a fesurodd efe, ei hyd a'i led.