16 A ffenestri cyfyng oedd i'r ystafelloedd, ac i'w pyst o fewn y porth o amgylch ogylch; ac felly yr oedd i'r bwâu meini: a ffenestri oedd o amgylch ogylch o fewn; ac yr oedd palmwydd ar bob post.
17 Ac efe a'm dug i'r cyntedd nesaf allan, ac wele yno ystafelloedd, a phalmant wedi ei wneuthur i'r cyntedd o amgylch ogylch; deg ystafell ar hugain oedd ar y palmant.
18 A'r palmant gan ystlys y pyrth ar gyfer hyd y pyrth, oedd y palmant oddi tanodd.
19 Ac efe a fesurodd y lled o wyneb y porth isaf hyd wyneb y cyntedd oddi fewn, yn gan cufydd oddi allan tua'r dwyrain a'r gogledd.
20 A'r porth yr hwn oedd â'i wyneb tua'r gogledd, ar y cyntedd nesaf allan, a fesurodd efe, ei hyd a'i led.
21 A'i ystafelloedd ef oedd dair o'r tu yma, a thair o'r tu acw; ac yr ydoedd ei byst, a'i fwâu meini, wrth fesur y porth cyntaf, yn ddeg cufydd a deugain eu hyd, a'r lled yn bum cufydd ar hugain.
22 Eu ffenestri hefyd, a'u bwâu meini, a'u palmwydd, oedd wrth fesur y porth oedd â'i wyneb tua'r dwyrain; ar hyd saith o risiau hefyd y dringent iddo; a'i fwâu meini oedd o'u blaen hwynt.