22 Eu ffenestri hefyd, a'u bwâu meini, a'u palmwydd, oedd wrth fesur y porth oedd â'i wyneb tua'r dwyrain; ar hyd saith o risiau hefyd y dringent iddo; a'i fwâu meini oedd o'u blaen hwynt.
23 A phorth y cyntedd nesaf i mewn oedd ar gyfer y porth tua'r gogledd, a thua'r dwyrain: ac efe a fesurodd o borth i borth gan cufydd.
24 Wedi hynny efe a'm dug i tua'r deau, ac wele borth tua'r deau, ac efe a fesurodd ei byst a'i fwâu meini wrth y mesurau hyn.
25 Ffenestri hefyd oedd iddo ac i'w fwâu meini, o amgylch ogylch, fel y ffenestri hynny, yn ddeg cufydd a deugain o hyd, ac yn bum cufydd ar hugain o led.
26 Saith o risiau hefyd oedd ei esgynfa ef, a'i fwâu meini o'u blaen hwynt: yr oedd hefyd iddo balmwydd, un o'r tu yma, ac un o'r tu acw, ar ei byst ef.
27 Ac yr oedd porth yn y cyntedd nesaf i mewn tua'r deau: ac efe a fesurodd o borth i borth, tua'r deau, gan cufydd.
28 Ac efe a'm dug i'r cyntedd nesaf i mewn trwy borth y deau: ac a fesurodd borth y deau wrth y mesurau hyn;