25 Ffenestri hefyd oedd iddo ac i'w fwâu meini, o amgylch ogylch, fel y ffenestri hynny, yn ddeg cufydd a deugain o hyd, ac yn bum cufydd ar hugain o led.
26 Saith o risiau hefyd oedd ei esgynfa ef, a'i fwâu meini o'u blaen hwynt: yr oedd hefyd iddo balmwydd, un o'r tu yma, ac un o'r tu acw, ar ei byst ef.
27 Ac yr oedd porth yn y cyntedd nesaf i mewn tua'r deau: ac efe a fesurodd o borth i borth, tua'r deau, gan cufydd.
28 Ac efe a'm dug i'r cyntedd nesaf i mewn trwy borth y deau: ac a fesurodd borth y deau wrth y mesurau hyn;
29 A'i ystafelloedd, a'i byst, a'i fwâu meini, wrth y mesurau hyn: ac yr oedd ffenestri ynddo, ac yn ei fwâu meini, o amgylch ogylch: deg cufydd a deugain oedd yr hyd, a phum cufydd ar hugain y lled.
30 A'r bwâu meini o amgylch ogylch oedd bum cufydd ar hugain o hyd, a phum cufydd o led.
31 A'i fwâu meini oedd tua'r cyntedd nesaf allan; a phalmwydd oedd ar ei byst; ac wyth o risiau oedd ei esgynfa ef.