28 Ac efe a'm dug i'r cyntedd nesaf i mewn trwy borth y deau: ac a fesurodd borth y deau wrth y mesurau hyn;
29 A'i ystafelloedd, a'i byst, a'i fwâu meini, wrth y mesurau hyn: ac yr oedd ffenestri ynddo, ac yn ei fwâu meini, o amgylch ogylch: deg cufydd a deugain oedd yr hyd, a phum cufydd ar hugain y lled.
30 A'r bwâu meini o amgylch ogylch oedd bum cufydd ar hugain o hyd, a phum cufydd o led.
31 A'i fwâu meini oedd tua'r cyntedd nesaf allan; a phalmwydd oedd ar ei byst; ac wyth o risiau oedd ei esgynfa ef.
32 Ac efe a'm dug i'r cyntedd nesaf i mewn tua'r dwyrain: ac a fesurodd y porth wrth y mesurau hyn.
33 A'i ystafelloedd, a'i byst, a'i fwâu meini, oedd wrth y mesurau hyn: ac yr oedd ffenestri ynddo ef, ac yn ei fwâu meini, o amgylch ogylch: yr hyd oedd ddeg cufydd a deugain, a'r lled yn bum cufydd ar hugain.
34 A'i fwâu meini oedd tua'r cyntedd nesaf allan; a phalmwydd oedd ar ei byst o'r tu yma, ac o'r tu acw; a'i esgynfa oedd wyth o risiau.