8 Efe a fesurodd hefyd gyntedd y porth oddi fewn, yn un gorsen.
9 Yna y mesurodd gyntedd y porth yn wyth gufydd, a'i byst yn ddau gufydd, a chyntedd y porth oedd o'r tu mewn.
10 Ac ystafelloedd y porth tua'r dwyrain oedd dair o'r tu yma, a thair o'r tu acw; un fesur oeddynt ill tair: ac un mesur oedd i'r pyst o'r tu yma ac o'r tu acw.
11 Ac efe a fesurodd led drws y porth yn ddeg cufydd, a hyd y porth yn dri chufydd ar ddeg.
12 A'r terfyn o flaen yr ystafelloedd oedd un cufydd o'r naill du, a'r terfyn o'r tu arall yn un cufydd; a'r ystafelloedd oedd chwe chufydd o'r tu yma, a chwe chufydd o'r tu acw.
13 Ac efe a fesurodd y porth o nen y naill ystafell hyd nen un arall, yn bum cufydd ar hugain o led, drws ar gyfer drws.
14 Ac efe a wnaeth byst o drigain cufydd, a hynny hyd bost y cyntedd, o amgylch ogylch y porth.