10 A phan ddelont hwy i mewn, y daw y tywysog yn eu mysg hwy; a phan elont allan, yr â yntau allan.
11 Ac ar y gwyliau a'r uchel wyliau hefyd y bydd y bwyd‐offrwm o effa gyda phob bustach, ac effa gyda phob hwrdd, a rhodd ei law gyda'r ŵyn, a hin o olew gyda'r effa.
12 A phan ddarparo y tywysog boethoffrwm gwirfodd, neu aberthau hedd gwirfodd i'r Arglwydd, yna yr egyr un iddo y porth sydd yn edrych tua'r dwyrain, ac efe a ddarpara ei boethoffrwm a'i aberthau hedd, fel y gwnaeth ar y dydd Saboth; ac a â allan: ac un a gae y porth ar ôl ei fyned ef allan.
13 Oen blwydd perffaith‐gwbl hefyd a ddarperi yn boethoffrwm i'r Arglwydd beunydd: o fore i fore y darperi ef.
14 Darperi hefyd yn fwyd‐offrwm gydag ef o fore i fore, chweched ran effa, a thrydedd ran hin o olew, i gymysgu y peilliaid, yn fwyd‐offrwm i'r Arglwydd, trwy ddeddf dragwyddol byth.
15 Fel hyn y darparant yr oen, a'r bwyd‐offrwm, a'r olew, o fore i fore, yn boethoffrwm gwastadol.
16 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Os rhydd y tywysog rodd i neb o'i feibion o'i etifeddiaeth, eiddo ei feibion fydd hynny, eu perchenogaeth fydd hynny wrth etifeddiaeth.