20 A thu y gorllewin fydd y môr mawr, o'r terfyn hyd oni ddeler ar gyfer Hamath. Dyma du y gorllewin.
21 Felly y rhennwch y tir hwn i chwi, yn ôl llwythau Israel.
22 Bydd hefyd i chwi ei rannu ef wrth goelbren yn etifeddiaeth i chwi, ac i'r dieithriaid a ymdeithiant yn eich mysg, y rhai a genhedla blant yn eich plith: a byddant i chwi fel un wedi ei eni yn y wlad ymysg meibion Israel; gyda chwi y cânt etifeddiaeth ymysg llwythau Israel.
23 A bydd, ym mha lwyth bynnag yr ymdeithio y dieithr, yno y rhoddwch ei etifeddiaeth ef, medd yr Arglwydd Dduw.