1 A dyma enwau y llwythau. O gwr y gogledd ar duedd ffordd Hethlon, ffordd yr eir i Hamath, Hasar‐enan, terfyn Damascus tua'r gogledd, i duedd Hamath, (canys y rhai hyn oedd ei derfynau dwyrain a gorllewin,) rhan i Dan.
2 Ac ar derfyn Dan, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, rhan i Aser.
3 Ac ar derfyn Aser, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, i Nafftali ran.
4 Ac ar derfyn Nafftali, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, i Manasse ran.
5 Ac ar derfyn Manasse, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, i Effraim ran.