11 I'r offeiriaid cysegredig o feibion Sadoc y bydd, y rhai a gadwasant fy nghadwraeth, y rhai ni chyfeiliornasant pan gyfeiliornodd plant Israel, megis y cyfeiliornodd y Lefiaid.
12 A bydd eiddynt yr hyn a offrymir o offrwm y tir, yn sancteiddbeth cysegredig wrth derfyn y Lefiaid.
13 A'r Lefiaid a gânt, ar gyfer terfyn yr offeiriaid, bum mil ar hugain o hyd, a dengmil o led: pob hyd fydd bum mil ar hugain, a'r lled yn ddengmil.
14 Hefyd ni werthant ddim ohono, ac ni chyfnewidiant, ac ni throsglwyddant flaenffrwyth y tir; oherwydd cysegredig yw i'r Arglwydd.
15 A'r pum mil gweddill o'r lled, ar gyfer y pum mil ar hugain, fydd digysegredig, yn drigfa ac yn faes pentrefol i'r ddinas; a'r ddinas fydd yn ei ganol.
16 A dyma ei fesurau ef; Ystlys y gogledd fydd bum cant a phedair mil, ac ystlys y deau yn bum cant a phedair mil, felly o du y dwyrain yn bum cant a phedair mil, a thua'r gorllewin yn bum cant a phedair mil.
17 A maes pentrefol y ddinas fydd hefyd tua'r gogledd yn ddeucant a deg a deugain, ac yn ddeucant a deg a deugain tua'r deau, ac yn ddeucant a deg a deugain tua'r dwyrain, ac yn ddeucant a deg a deugain tua'r gorllewin.