20 Yr holl offrwm fydd bum mil ar hugain, wrth bum mil ar hugain: yn bedeirongl yr offrymwch yr offrwm cysegredig, gyda pherchenogaeth y ddinas.
21 A'r hyn a adewir fydd i'r tywysog, oddeutu yr offrwm cysegredig, ac o berchenogaeth y ddinas, ar gyfer y pum mil ar hugain o'r offrwm tua therfyn y dwyrain, a thua'r gorllewin, ar gyfer y pum mil ar hugain tua therfyn y gorllewin, gyferbyn â rhannau y tywysog: a'r offrwm cysegredig fydd; a chysegrfa y tŷ fydd yng nghanol hynny.
22 Felly o berchenogaeth y Lefiaid, ac o berchenogaeth y ddinas, yng nghanol yr hyn sydd i'r tywysog rhwng terfyn Jwda a therfyn Benjamin, eiddo y tywysog fydd.
23 Ac am y rhan arall o'r llwythau, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, y bydd rhan i Benjamin.
24 Ac ar derfyn Benjamin, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, y bydd rhan i Simeon.
25 Ac ar derfyn Simeon, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, rhan i Issachar.
26 Ac ar derfyn Issachar, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, rhan i Sabulon.