22 Felly o berchenogaeth y Lefiaid, ac o berchenogaeth y ddinas, yng nghanol yr hyn sydd i'r tywysog rhwng terfyn Jwda a therfyn Benjamin, eiddo y tywysog fydd.
23 Ac am y rhan arall o'r llwythau, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, y bydd rhan i Benjamin.
24 Ac ar derfyn Benjamin, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, y bydd rhan i Simeon.
25 Ac ar derfyn Simeon, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, rhan i Issachar.
26 Ac ar derfyn Issachar, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, rhan i Sabulon.
27 Ac ar derfyn Sabulon, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, rhan i Gad.
28 Ac ar derfyn Gad, ar y tu deau tua'r deau, y terfyn fydd o Tamar hyd ddyfroedd cynnen Cades, a hyd yr afon tua'r môr mawr.