28 Ac ar derfyn Gad, ar y tu deau tua'r deau, y terfyn fydd o Tamar hyd ddyfroedd cynnen Cades, a hyd yr afon tua'r môr mawr.
29 Dyma y tir a rennwch wrth goelbren yn etifeddiaeth i lwythau Israel, a dyma eu rhannau hwynt, medd yr Arglwydd Dduw.
30 Dyma hefyd fynediad allan y ddinas, o du y gogledd pum cant a phedair mil o fesurau.
31 A phyrth y ddinas fydd ar enwau llwythau Israel: tri phorth tua'r gogledd; porth Reuben yn un, porth Jwda yn un, porth Lefi yn un.
32 Ac ar du y dwyrain pum cant a phedair mil: a thri phorth; sef porth Joseff yn un, porth Benjamin yn un, porth Dan yn un.
33 A thua'r deau pum cant a phedair mil o fesurau: a thri phorth; porth Simeon yn un, a phorth Issachar yn un, a phorth Sabulon yn un.
34 Tua'r gorllewin y bydd pum cant a phedair mil, a'u tri phorth; porth Gad yn un, porth Aser yn un, a phorth Nafftali yn un.