3 Ac ar derfyn Aser, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, i Nafftali ran.
4 Ac ar derfyn Nafftali, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, i Manasse ran.
5 Ac ar derfyn Manasse, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, i Effraim ran.
6 Ac ar derfyn Effraim, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, i Reuben ran.
7 Ac ar derfyn Reuben, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, i Jwda ran.
8 Ac ar derfyn Jwda, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, y bydd yr offrwm a offrymoch yn bum mil ar hugain o gorsennau o led, ac o hyd fel un o'r rhannau, o du y dwyrain hyd du y gorllewin; a'r cysegr fydd yn ei ganol.
9 Yr offrwm a offrymoch i'r Arglwydd fydd bum mil ar hugain o hyd, a dengmil o led.