32 Ac ar du y dwyrain pum cant a phedair mil: a thri phorth; sef porth Joseff yn un, porth Benjamin yn un, porth Dan yn un.
33 A thua'r deau pum cant a phedair mil o fesurau: a thri phorth; porth Simeon yn un, a phorth Issachar yn un, a phorth Sabulon yn un.
34 Tua'r gorllewin y bydd pum cant a phedair mil, a'u tri phorth; porth Gad yn un, porth Aser yn un, a phorth Nafftali yn un.
35 Deunaw mil o fesurau oedd hi o amgylch: ac enw y ddinas o'r dydd hwnnw allan fydd, Yr Arglwydd sydd yno.