7 Ac ar derfyn Reuben, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, i Jwda ran.
8 Ac ar derfyn Jwda, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, y bydd yr offrwm a offrymoch yn bum mil ar hugain o gorsennau o led, ac o hyd fel un o'r rhannau, o du y dwyrain hyd du y gorllewin; a'r cysegr fydd yn ei ganol.
9 Yr offrwm a offrymoch i'r Arglwydd fydd bum mil ar hugain o hyd, a dengmil o led.
10 Ac eiddo y rhai hyn fydd yr offrwm cysegredig, sef eiddo yr offeiriaid, fydd pum mil ar hugain tua'r gogledd o hyd, a dengmil tua'r gorllewin o led; felly dengmil tua'r dwyrain o led, a phum mil ar hugain tua'r deau o hyd: a chysegr yr Arglwydd fydd yn ei ganol.
11 I'r offeiriaid cysegredig o feibion Sadoc y bydd, y rhai a gadwasant fy nghadwraeth, y rhai ni chyfeiliornasant pan gyfeiliornodd plant Israel, megis y cyfeiliornodd y Lefiaid.
12 A bydd eiddynt yr hyn a offrymir o offrwm y tir, yn sancteiddbeth cysegredig wrth derfyn y Lefiaid.
13 A'r Lefiaid a gânt, ar gyfer terfyn yr offeiriaid, bum mil ar hugain o hyd, a dengmil o led: pob hyd fydd bum mil ar hugain, a'r lled yn ddengmil.