10 Am hynny y tadau a fwytânt y plant yn dy fysg di, a'r plant a fwyty eu tadau; a gwnaf ynot farnedigaethau, a mi a daenaf dy holl weddill gyda phob gwynt.
11 Am hynny, fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, Yn ddiau am halogi ohonot fy nghysegr â'th holl ffieidd‐dra ac â'th holl frynti, am hynny hefyd y prinhaf finnau di; ac nid arbed fy llygad, ac ni thosturiaf chwaith.
12 Dy draean fyddant feirw o'r haint, ac a ddarfyddant o newyn, yn dy ganol; a thraean a syrthiant ar y cleddyf o'th amgylch: a thraean a daenaf gyda phob gwynt: a thynnaf gleddyf ar eu hôl hwynt.
13 Felly y gorffennir fy nig, ac y llonyddaf fy llidiowgrwydd yn eu herbyn hwynt, ac ymgysuraf: a hwy a gânt wybod mai myfi yr Arglwydd a'i lleferais yn fy ngwŷn, pan orffennwyf fy llid ynddynt.
14 A rhoddaf di hefyd yn anrhaith, ac yn warth ymysg y cenhedloedd sydd o'th amgylch, yng ngolwg pawb a êl heibio.
15 Yna y bydd y gwaradwydd a'r gwarthrudd yn ddysg ac yn syndod i'r cenhedloedd sydd o'th amgylch, pan wnelwyf ynot farnedigaethau mewn dig, a llidiowgrwydd, a cherydd llidiog. Myfi yr Arglwydd a'i lleferais.
16 Pan anfonwyf arnynt ddrwg saethau newyn, y rhai fyddant i'w difetha, y rhai a ddanfonaf i'ch difetha: casglaf hefyd newyn arnoch, a thorraf eich ffon bara: