14 A rhoddaf di hefyd yn anrhaith, ac yn warth ymysg y cenhedloedd sydd o'th amgylch, yng ngolwg pawb a êl heibio.
15 Yna y bydd y gwaradwydd a'r gwarthrudd yn ddysg ac yn syndod i'r cenhedloedd sydd o'th amgylch, pan wnelwyf ynot farnedigaethau mewn dig, a llidiowgrwydd, a cherydd llidiog. Myfi yr Arglwydd a'i lleferais.
16 Pan anfonwyf arnynt ddrwg saethau newyn, y rhai fyddant i'w difetha, y rhai a ddanfonaf i'ch difetha: casglaf hefyd newyn arnoch, a thorraf eich ffon bara:
17 Anfonaf hefyd arnoch newyn, a bwystfil drwg; ac efe a'th ddiblanta di: haint hefyd a gwaed a dramwya trwot ti; a dygaf gleddyf arnat. Myfi yr Arglwydd a'i lleferais.