2 Traean a losgi yn tân yng nghanol y ddinas, pan gyflawner dyddiau y gwarchae; traean a gymeri hefyd, ac a'i trewi â'r gyllell o'i amgylch; a thraean a daeni gyda'r gwynt: a mi a dynnaf gleddyf ar eu hôl hwynt.
3 Cymer hefyd oddi yno ychydig o nifer, a chlyma hwynt yn dy odre.
4 A chymer eilwaith rai ohonynt hwy, a thafl hwynt i ganol y tân, a llosg hwynt yn tân: ohono y daw allan dân i holl dŷ Israel.
5 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Jerwsalem yw hon: gosodais hi ymysg y cenhedloedd a'r tiroedd o'i hamgylch.
6 A hi a newidiodd fy marnedigaethau i ddrygioni yn fwy na'r cenhedloedd, a'm deddfau yn fwy na'r gwledydd sydd o'i hamgylch: canys gwrthodasant fy marnedigaethau a'm deddfau, ni rodiasant ynddynt.
7 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Am i chwi amlhau yn fwy na'r cenhedloedd sydd o'ch amgylch, heb rodio ohonoch yn fy neddfau, na gwneuthur fy marnedigaethau, ac na wnaethoch yn ôl barnedigaethau y cenhedloedd sydd o'ch amgylch;
8 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi, ie, myfi, ydwyf yn dy erbyn, a gwnaf yn dy ganol di farnedigaethau yng ngolwg y cenhedloedd.