11 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Taro â'th law, a chur â'th droed, a dywed, O, rhag holl ffieidd‐dra drygioni tŷ Israel! canys trwy gleddyf, trwy newyn, a thrwy haint, y syrthiant.
12 Y pellennig a fydd farw o'r haint, a'r cyfagos a syrth gan y cleddyf; y gweddilledig hefyd a'r gwarchaeëdig a fydd farw o newyn: fel hyn y gorffennaf fy llidiowgrwydd arnynt.
13 A chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan fyddo eu harcholledigion hwynt ymysg eu heilunod o amgylch eu hallorau, ar bob bryn uchel, ar holl bennau y mynyddoedd, a than bob pren ir, a than bob derwen gaeadfrig, lle y rhoddasant arogl peraidd i'w holl eilunod.
14 Felly yr estynnaf fy llaw arnynt, a gwnaf y tir yn anrhaith; ie, yn fwy anrheithiol na'r anialwch tua Diblath, trwy eu holl drigfeydd: a chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd.