6 Yn eich holl drigfeydd y dinasoedd a anrheithir, a'r uchelfeydd a ddifwynir; fel yr anrheithier ac y difwyner eich allorau, ac y torrer ac y peidio eich eilunod, ac y torrer ymaith eich haul‐ddelwau, ac y dileer eich gweithredoedd.
7 Yr archolledig hefyd a syrth yn eich canol; a chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd.
8 Eto gadawaf weddill, fel y byddo i chwi rai wedi dianc gan y cleddyf ymysg y cenhedloedd, pan wasgarer chwi trwy y gwledydd.
9 A'ch rhai dihangol a'm cofiant i ymysg y cenhedloedd y rhai y caethgludir hwynt atynt, am fy nryllio â'u calon buteinllyd, yr hon a giliodd oddi wrthyf; ac â'u llygaid, y rhai a buteiniasant ar ôl eu heilunod: yna yr ymffieiddiant ynddynt eu hun am y drygioni a wnaethant yn eu holl ffieidd‐dra.
10 A chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd, ac na leferais yn ofer am wneuthur iddynt y drwg hwn.
11 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Taro â'th law, a chur â'th droed, a dywed, O, rhag holl ffieidd‐dra drygioni tŷ Israel! canys trwy gleddyf, trwy newyn, a thrwy haint, y syrthiant.
12 Y pellennig a fydd farw o'r haint, a'r cyfagos a syrth gan y cleddyf; y gweddilledig hefyd a'r gwarchaeëdig a fydd farw o newyn: fel hyn y gorffennaf fy llidiowgrwydd arnynt.