1 A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,
2 Tithau, fab dyn, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrth dir Israel; Diwedd, diwedd a ddaeth ar bedair congl y tir.
3 Daeth yr awr hon ddiwedd arnat, a mi a anfonaf fy nig arnat ti; barnaf di hefyd yn ôl dy ffyrdd, a rhoddaf dy holl ffieidd‐dra arnat.
4 Fy llygad hefyd ni'th arbed di, ac ni thosturiaf: eithr rhoddaf dy ffyrdd arnat ti, a'th ffieidd‐dra fydd yn dy ganol di: fel y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd.
5 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Drwg, drwg unig, wele, a ddaeth.