12 Yr amser a ddaeth, y dydd a nesaodd: na lawenyched y prynwr, ac na thristaed y gwerthwr: canys mae dicllonedd ar ei holl liaws hi.
13 Canys y gwerthydd ni ddychwel at yr hyn a werthwyd, er eu bod eto yn fyw: oblegid y weledigaeth sydd am ei holl liaws, y rhai ni ddychwelant: ac nid ymgryfha neb yn anwiredd ei fuchedd.
14 Utganasant yr utgorn, i baratoi pawb: eto nid â neb i'r rhyfel; am fod fy nicllonedd yn erbyn eu holl liaws.
15 Y cleddyf fydd oddi allan, yr haint hefyd a'r newyn o fewn: yr hwn fyddo yn y maes, a fydd farw gan gleddyf; a'r hwn a fyddo yn y ddinas, newyn a haint a'i difa ef.
16 Eto eu rhai dihangol hwy a ddihangant, ac ar y mynyddoedd y byddant hwy i gyd fel colomennod y dyffryn, yn griddfan, bob un am ei anwiredd.
17 Yr holl ddwylo a laesant, a'r holl liniau a ânt yn ddwfr.
18 Ymwregysant hefyd mewn sachliain, ac arswyd a'u toa hwynt; a bydd cywilydd ar bob wyneb, a moelni ar eu holl bennau hwynt.