15 Y cleddyf fydd oddi allan, yr haint hefyd a'r newyn o fewn: yr hwn fyddo yn y maes, a fydd farw gan gleddyf; a'r hwn a fyddo yn y ddinas, newyn a haint a'i difa ef.
16 Eto eu rhai dihangol hwy a ddihangant, ac ar y mynyddoedd y byddant hwy i gyd fel colomennod y dyffryn, yn griddfan, bob un am ei anwiredd.
17 Yr holl ddwylo a laesant, a'r holl liniau a ânt yn ddwfr.
18 Ymwregysant hefyd mewn sachliain, ac arswyd a'u toa hwynt; a bydd cywilydd ar bob wyneb, a moelni ar eu holl bennau hwynt.
19 Eu harian a daflant i'r heolydd, a'u haur a roir heibio: eu harian na'u haur ni ddichon eu gwared hwynt yn nydd dicter yr Arglwydd: eu henaid ni ddiwallant, a'u coluddion ni lanwant: oherwydd tramgwydd eu hanwiredd ydyw.
20 A thegwch ei harddwch ef a osododd efe yn rhagoriaeth: ond gwnaethant ynddo ddelwau eu ffieidd‐dra a'u brynti: am hynny y rhoddais ef ymhell oddi wrthynt.
21 Ac mi a'i rhoddaf yn llaw dieithriaid yn ysbail, ac yn anrhaith i rai drygionus y tir; a hwy a'i halogant ef.