23 Gwna gadwyn; canys llanwyd y tir o farn waedlyd, a'r ddinas sydd lawn o drais.
24 Am hynny y dygaf rai gwaethaf y cenhedloedd, fel y meddiannont eu tai hwynt: gwnaf hefyd i falchder y cedyrn beidio; a'u cysegroedd a halogir.
25 Y mae dinistr yn dyfod; a hwy a geisiant heddwch, ac nis cânt.
26 Daw trychineb ar drychineb, a bydd chwedl ar chwedl: yna y ceisiant weledigaeth gan y proffwyd; ond cyfraith a gyll gan yr offeiriad, a chyngor gan yr henuriaid.
27 Y brenin a alara, a'r tywysog a wisgir ag anrhaith, a dwylo pobl y tir a drallodir: gwnaf â hwynt yn ôl eu ffordd, ac â'u barnedigaethau y barnaf hwynt; fel y gwybyddont mai myfi yw yr Arglwydd.