5 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Drwg, drwg unig, wele, a ddaeth.
6 Diwedd a ddaeth, daeth diwedd: y mae yn gwylio amdanat; wele, efe a ddaeth.
7 Daeth y boregwaith atat, breswylydd y tir: daeth yr amser, agos yw y dydd terfysg, ac nid atsain mynyddoedd.
8 Weithian ar fyrder y tywalltaf fy llid arnat, ac y gorffennaf fy nig wrthyt: barnaf di hefyd yn ôl dy ffyrdd, a rhoddaf dy holl ffieidd‐dra arnat.
9 A'm llygad nid arbed, ac ni thosturiaf: rhoddaf arnat yn ôl dy ffyrdd, a'th ffieidd‐dra a fydd yn dy ganol di; a chewch wybod mai myfi yr Arglwydd sydd yn taro.
10 Wele y dydd, wele efe yn dyfod: y boregwaith a aeth allan; blodeuodd y wialen, blagurodd balchder.
11 Cyfododd traha yn wialen drygioni: ni bydd un ohonynt, nac o'u lliaws, nac o'r eiddynt, na galar drostynt.