10 Ar y seithfed dydd, pan oedd lawen calon y brenin gan win, efe a ddywedodd wrth Mehuman, Bistha, Harbona, Bigtha, ac Abagtha, Sethar, a Charcas, y saith ystafellydd oedd yn gweini gerbron y brenin Ahasferus,
11 Am gyrchu y frenhines Fasti o flaen y brenin, yn y frenhinol goron, i ddangos i'r bobloedd ac i'r tywysogion ei glendid hi: canys glân yr olwg ydoedd hi.
12 Ond y frenhines Fasti a wrthododd ddyfod wrth air y brenin trwy law ei ystafellyddion: am hynny y llidiodd y brenin yn ddirfawr, a'i ddicllonedd ef a enynnodd ynddo.
13 Yna y dywedodd y brenin wrth y doethion oedd yn gwybod yr amserau, (canys felly yr oedd arfer y brenin tuag at bob rhai a fyddai yn gwybod cyfraith a barn:
14 A nesaf ato ef oedd Carsena, Sethar, Admatha, Tarsis, Meres, Marsena, a Memuchan, saith dywysog Persia a Media, y rhai oedd yn gweled wyneb y brenin, ac yn eistedd yn gyntaf yn y frenhiniaeth;)
15 Beth sydd i'w wneuthur wrth y gyfraith i'r frenhines Fasti, am na wnaeth hi archiad y brenin Ahasferus trwy law yr ystafellyddion?
16 Yna Memuchan a ddywedodd gerbron y brenin a'r tywysogion, Nid yn erbyn y brenin yn unig y gwnaeth Fasti y frenhines ar fai, ond yn erbyn yr holl dywysogion hefyd, a'r holl bobloedd sydd trwy holl daleithiau y brenin Ahasferus.