Esther 8 BWM

1 Y dwthwn hwnnw y rhoddodd y brenin Ahasferus i'r frenhines Esther dŷ Haman gwrthwynebwr yr Iddewon. A Mordecai a ddaeth o flaen y brenin; canys Esther a fynegasai beth oedd efe iddi hi.

2 A'r brenin a dynnodd ymaith y fodrwy a gymerasai efe oddi wrth Haman, ac a'i rhoddodd i Mordecai. Ac Esther a osododd Mordecai ar dŷ Haman.

3 Ac Esther a lefarodd drachefn gerbron y brenin, ac a syrthiodd wrth ei draed ef; wylodd hefyd, ac ymbiliodd ag ef am fwrw ymaith ddrygioni Haman yr Agagiad, a'i fwriad yr hwn a fwriadasai efe yn erbyn yr Iddewon.

4 A'r brenin a estynnodd y deyrnwialen aur tuag at Esther. Yna Esther a gyfododd, ac a safodd o flaen y brenin,

5 Ac a ddywedodd, O bydd bodlon gan y brenin, ac o chefais ffafr o'i flaen ef, ac od ydyw y peth yn iawn gerbron y brenin, a minnau yn gymeradwy yn ei olwg ef; ysgrifenner am alw yn ôl lythyrau bwriad Haman mab Hammedatha yr Agagiad, y rhai a ysgrifennodd efe i ddifetha'r Iddewon sydd trwy holl daleithiau y brenin.

6 Canys pa fodd y gallaf edrych ar y drygfyd a gaiff fy mhobl? a pha fodd y gallaf edrych ar ddifetha fy nghenedl?

7 A'r brenin Ahasferus a ddywedodd wrth Esther y frenhines, ac wrth Mordecai yr Iddew, Wele, tŷ Haman a roddais i Esther, a hwy a'i crogasant ef ar y pren, am iddo estyn ei law yn erbyn yr Iddewon.

8 Ysgrifennwch chwithau hefyd dros yr Iddewon fel y gweloch yn dda, yn enw y brenin, ac inseliwch â modrwy y brenin: canys yr ysgrifen a ysgrifennwyd yn enw y brenin ac a seliwyd â modrwy y brenin, ni all neb ei datroi.

9 Yna y galwyd ysgrifenyddion y brenin yr amser hwnnw yn y trydydd mis, hwnnw yw y mis Sifan, ar y trydydd dydd ar hugain ohono, ac ysgrifennwyd, yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd Mordecai, at yr Iddewon, ac at y rhaglawiaid, y penaduriaid hefyd, a thywysogion y taleithiau, y rhai oedd o India hyd Ethiopia, sef cant a saith ar hugain o daleithiau, i bob talaith wrth ei hysgrifen, ac at bob pobl yn ôl eu tafodiaith: at yr Iddewon hefyd yn ôl eu hysgrifen hwynt, ac yn ôl eu tafodiaith.

10 Ac efe a ysgrifennodd yn enw y brenin Ahasferus, ac a'i seliodd â modrwy y brenin; ac a anfonodd lythyrau gyda'r rhedegwyr yn marchogaeth ar feirch, dromedariaid, mulod, ac ebolion cesig:

11 Trwy y rhai y caniataodd y brenin i'r Iddewon, y rhai oedd ym mhob dinas, ymgynnull, a sefyll am eu heinioes, i ddinistrio, i ladd, ac i ddifetha holl allu y bobl a'r dalaith a osodai arnynt, yn blant ac yn wragedd, ac i ysglyfaethu eu hysbail hwynt;

12 Mewn un dydd, trwy holl daleithiau y brenin Ahasferus, sef ar y trydydd dydd ar ddeg o'r deuddegfed mis, hwnnw yw mis Adar.

13 Testun yr ysgrifen, i roddi gorchymyn ym mhob talaith, a gyhoeddwyd i bob rhyw bobl; ac ar fod yr Iddewon yn barod erbyn y diwrnod hwnnw i ymddial ar eu gelynion.

14 Y rhedegwyr, y rhai oedd yn marchogaeth y dromedariaid a'r mulod, a aethant ar frys, wedi eu gyrru trwy air y brenin; a'r gorchymyn a roddasid yn Susan y brenhinllys.

15 A Mordecai a aeth allan o ŵydd y brenin mewn brenhinol wisg o ruddgoch a gwyn, ac â choron fawr o aur, ac mewn dillad sidan a phorffor; a dinas Susan a orfoleddodd ac a lawenychodd:

16 I'r Iddewon yr oedd goleuni, a llawenydd, a hyfrydwch, ac anrhydedd.

17 Ac ym mhob talaith, ac ym mhob dinas, lle y daeth gair y brenin a'i orchymyn, yr oedd llawenydd a hyfrydwch gan yr Iddewon, gwledd hefyd a diwrnod daionus: a llawer o bobl y wlad a aethant yn Iddewon; oblegid arswyd yr Iddewon a syrthiasai arnynt hwy.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10