1 Y noson honno cwsg y brenin a giliodd ymaith; am hynny efe a archodd ddwyn llyfr coffadwriaethau hanesion yr amseroedd; a darllenwyd hwynt gerbron y brenin.
2 Yna y cafwyd yn ysgrifenedig yr hyn a fynegasai Mordecai am Bigthana a Theres, dau o ystafellyddion y brenin, o'r rhai oedd yn cadw y trothwy; sef y rhai a geisiasent estyn llaw yn erbyn y brenin Ahasferus.
3 A dywedodd y brenin, Pa anrhydedd neu fawredd a wnaed i Mordecai am hyn? A gweision y brenin, sef ei weinidogion ef, a ddywedasant, Ni wnaed dim erddo ef.
4 A'r brenin a ddywedodd, Pwy sydd yn y cyntedd? A Haman a ddaethai i gyntedd nesaf allan tŷ y brenin, i ddywedyd wrth y brenin am grogi Mordecai ar y pren a baratoesai efe iddo.
5 A gweision y brenin a ddywedasant wrtho, Wele Haman yn sefyll yn y cyntedd. A dywedodd y brenin, Deled i mewn.
6 A phan ddaeth Haman i mewn, dywedodd y brenin wrtho, Beth a wneir i'r gŵr y mae y brenin yn ewyllysio ei anrhydeddu? Yna Haman a ddywedodd yn ei galon, I bwy yr ewyllysia y brenin wneuthur anrhydedd yn fwy nag i mi?
7 A Haman a ddywedodd wrth y brenin, Y gŵr y mae y brenin yn chwennych ei anrhydeddu,
8 Dygant y wisg frenhinol iddo, yr hon a wisg y brenin, a'r march y merchyg y brenin arno, a rhodder y frenhinol goron am ei ben ef:
9 A rhodder y wisg, a'r march, yn llaw un o dywysogion ardderchocaf y brenin, a gwisgant am y gŵr y mae y brenin yn chwennych ei anrhydeddu, a pharant iddo farchogaeth ar y march trwy heol y ddinas, a chyhoeddant o'i flaen ef, Fel hyn y gwneir i'r gŵr y mae y brenin yn chwennych ei anrhydeddu.
10 Yna y brenin a ddywedodd wrth Haman, Brysia, cymer y wisg a'r march, fel y lleferaist, a gwna felly i Mordecai yr Iddew, yr hwn sydd yn eistedd ym mhorth y brenin: na ad heb wneuthur ddim o'r hyn oll a leferaist.
11 Felly Haman a gymerth y wisg a'r march, ac a wisgodd am Mordecai, ac a wnaeth hefyd iddo farchogaeth trwy heol y ddinas, ac a gyhoeddodd o'i flaen ef, Fel hyn y gwneir i'r gŵr y mae y brenin yn mynnu ei anrhydeddu.
12 A dychwelodd Mordecai i borth y brenin. A Haman a frysiodd i'w dŷ yn alarus, wedi gorchuddio ei ben.
13 A Haman a adroddodd i Seres ei wraig, ac i'w holl garedigion, yr hyn oll a ddigwyddasai iddo. Yna ei ddoethion, a Seres ei wraig, a ddywedasant wrtho, Os o had yr Iddewon y mae Mordecai, yr hwn y dechreuaist syrthio o'i flaen, ni orchfygi mohono, ond gan syrthio y syrthi o'i flaen ef.
14 Tra yr oeddynt hwy eto yn ymddiddan ag ef, ystafellyddion y brenin a ddaethant, ac a gyrchasant Haman ar frys i'r wledd a wnaethai Esther.