15 Beth sydd i'w wneuthur wrth y gyfraith i'r frenhines Fasti, am na wnaeth hi archiad y brenin Ahasferus trwy law yr ystafellyddion?
16 Yna Memuchan a ddywedodd gerbron y brenin a'r tywysogion, Nid yn erbyn y brenin yn unig y gwnaeth Fasti y frenhines ar fai, ond yn erbyn yr holl dywysogion hefyd, a'r holl bobloedd sydd trwy holl daleithiau y brenin Ahasferus.
17 Canys gweithred y frenhines a â allan at yr holl wragedd, fel y tremygant eu gwŷr yn eu golwg eu hun, pan ddywedant, Y brenin Ahasferus a archodd gyrchu Fasti y frenhines o'i flaen; ond ni ddaeth hi.
18 Arglwyddesau Persia a Media, y rhai a glywsant weithred y frenhines, a ddywedant heddiw wrth holl dywysogion y brenin. Felly y bydd mwy na digon o ddirmyg a dicter.
19 Os bydd bodlon gan y brenin, eled brenhinol orchymyn oddi wrtho ef, ac ysgrifenner ef ymysg cyfreithiau y Persiaid a'r Mediaid, fel na throsedder ef, na ddêl Fasti mwy gerbron y brenin Ahasferus; a rhodded y brenin ei brenhinfraint hi i'w chyfeilles yr hon sydd well na hi.
20 A phan glywer gorchymyn y brenin, yr hwn a wnelo efe, trwy ei holl frenhiniaeth, (yr hon sydd fawr,) yna yr holl wragedd a roddant anrhydedd i'w gwŷr, o'r mwyaf hyd y lleiaf.
21 A da oedd y peth yng ngolwg y brenin a'r tywysogion; a'r brenin a wnaeth yn ôl gair Memuchan: