16 Felly Esther a gymerwyd at y brenin Ahasferus, i'w frenhindy ef, yn y degfed mis, hwnnw yw mis Tebeth, yn y seithfed flwyddyn o'i deyrnasiad ef.
17 A'r brenin a hoffodd Esther rhagor yr holl wragedd, a hi a gafodd ffafr a charedigrwydd yn ei ŵydd ef rhagor yr holl wyryfon; ac efe a osododd y deyrngoron ar ei phen hi, ac a'i gwnaeth yn frenhines yn lle Fasti.
18 Yna y gwnaeth y brenin wledd fawr i'w holl dywysogion a'i weision, sef gwledd Esther; ac efe a wnaeth ryddid i'r taleithiau, ac a roddodd roddion yn ôl gallu y brenin.
19 A phan gasglwyd y gwyryfon yr ail waith, yna Mordecai oedd yn eistedd ym mhorth y brenin.
20 Nid oedd Esther yn mynegi ei chenedl, na'i phobl; megis y gorchmynasai Mordecai iddi: canys Esther oedd yn gwneuthur yr hyn a ddywedasai Mordecai, fel cynt pan oedd hi yn ei meithrin gydag ef.
21 Yn y dyddiau hynny, pan oedd Mordecai yn eistedd ym mhorth y brenin, y llidiodd Bigthan a Theres, dau o ystafellyddion y brenin, sef o'r rhai oedd yn cadw y trothwy, a cheisiasant estyn llaw yn erbyn y brenin Ahasferus.
22 A'r peth a wybu Mordecai; ac efe a'i mynegodd i Esther y frenhines; ac Esther a'i dywedodd wrth y brenin, yn enw Mordecai.