1 Wedi y pethau hyn, y brenin Ahasferus a fawrhaodd Haman mab Hammedatha yr Agagiad, ac a'i dyrchafodd ef; gosododd hefyd ei orseddfainc ef goruwch yr holl dywysogion oedd gydag ef.
2 A holl weision y brenin, y rhai oedd ym mhorth y brenin, oedd yn ymgrymu, ac yn ymostwng i Haman; canys felly y gorchmynasai y brenin amdano ef: ond nid ymgrymodd Mordecai, ac nid ymostyngodd.
3 Yna gweision y brenin, y rhai oedd ym mhorth y brenin, a ddywedasant wrth Mordecai, Paham yr ydwyt ti yn troseddu gorchymyn y brenin?
4 Ac er eu bod hwy beunydd yn dywedyd wrtho fel hyn, eto ni wrandawai efe arnynt hwy; am hynny y mynegasant i Haman, i edrych a safai geiriau Mordecai: canys efe a fynegasai iddynt mai Iddew ydoedd efe.
5 A phan welodd Haman nad oedd Mordecai yn ymgrymu, nac yn ymostwng iddo, Haman a lanwyd o ddicllonedd.
6 Er hynny diystyr oedd ganddo yn ei olwg ei hun estyn llaw yn erbyn Mordecai ei hunan; canys mynegasant iddo bobl Mordecai: am hynny Haman a geisiodd ddifetha yr holl Iddewon, y rhai oedd trwy holl frenhiniaeth Ahasferus, sef pobl Mordecai.
7 Yn y mis cyntaf, hwnnw yw mis Nisan, yn y ddeuddegfed flwyddyn i'r brenin Ahasferus, efe a barodd fwrw Pwr, (hwnnw yw, y coelbren,) gerbron Haman, o ddydd i ddydd, ac o fis i fis, hyd y deuddegfed mis, hwnnw yw mis Adar.