Esther 3:7-13 BWM

7 Yn y mis cyntaf, hwnnw yw mis Nisan, yn y ddeuddegfed flwyddyn i'r brenin Ahasferus, efe a barodd fwrw Pwr, (hwnnw yw, y coelbren,) gerbron Haman, o ddydd i ddydd, ac o fis i fis, hyd y deuddegfed mis, hwnnw yw mis Adar.

8 A Haman a ddywedodd wrth y brenin Ahasferus, Y mae rhyw bobl wasgaredig a gwahanedig ymhlith y bobloedd, trwy holl daleithiau dy frenhiniaeth; a'u cyfreithiau hwynt sydd yn amrafaelio oddi wrth yr holl bobl, ac nid ydynt yn gwneuthur cyfreithiau y brenin; am hynny nid buddiol i'r brenin eu dioddef hwynt.

9 O bydd bodlon gan y brenin, ysgrifenner am eu difetha hwynt: a deng mil o dalentau arian a dalaf ar ddwylo'r rhai a wnânt y weithred hon, i'w dwyn i drysorau y brenin.

10 A thynnodd y brenin ei fodrwy oddi am ei law, ac a'i rhoddes i Haman mab Hammedatha yr Agagiad, gwrthwynebwr yr Iddewon.

11 A'r brenin a ddywedodd wrth Haman, Rhodder yr arian i ti, a'r bobl, i wneuthur â hwynt fel y byddo da yn dy olwg.

12 Yna y galwyd ysgrifenyddion y brenin, yn y mis cyntaf, ar y trydydd dydd ar ddeg o'r mis hwnnw, ac yr ysgrifennwyd, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Haman, at bendefigion y brenin, ac at y dugiaid oedd ar bob talaith, ac at dywysogion pob pobl i bob talaith yn ôl ei ysgrifen, ac at bob pobl yn ôl eu tafodiaith; yn enw y brenin Ahasferus yr ysgrifenasid, ac â modrwy y brenin y seliasid hyn.

13 A'r llythyrau a anfonwyd gyda'r rhedegwyr i holl daleithiau y brenin; i ddinistrio, i ladd, ac i ddifetha yr holl Iddewon, yn ieuainc ac yn hen, yn blant ac yn wragedd, mewn un dydd, sef ar y trydydd dydd ar ddeg o'r deuddegfed mis, hwnnw yw mis Adar, ac i ysglyfaethu eu hysbail hwynt.