1 Pan wybu Mordecai yr hyn oll a wnaethid, Mordecai a rwygodd ei ddillad, ac a wisgodd sachliain a lludw, ac a aeth allan i ganol y ddinas, ac a waeddodd â chwerw lef uchel.
2 Ac efe a ddaeth hyd o flaen porth y brenin: ond ni cheid dyfod i borth y brenin mewn gwisg o sach.
3 Ac ym mhob talaith a lle a'r y daethai gair y brenin a'i orchymyn iddo, yr oedd galar mawr gan yr Iddewon, ac ympryd, ac wylofain, ac oernad; a llawer a orweddent mewn sachliain a lludw.
4 Yna llancesau Esther a'i hystafellyddion hi a ddaethant ac a fynegasant hynny iddi hi. A'r frenhines a dristaodd yn ddirfawr; a hi a ddanfonodd wisgoedd i ddilladu Mordecai, ac i dynnu ymaith ei sachliain ef oddi amdano; ond ni chymerai efe hwynt.
5 Am hynny Esther a alwodd ar Hathach, un o ystafellyddion y brenin, yr hwn a osodasai efe i wasanaethu o'i blaen hi; a hi a orchmynnodd iddo am Mordecai, fynnu gwybod pa beth oedd hyn, ac am ba beth yr ydoedd hyn.
6 Yna Hathach a aeth allan at Mordecai i heol y ddinas yr hon sydd o flaen porth y brenin.