7 A Mordecai a fynegodd iddo yr hyn oll a ddigwyddasai iddo; a swm yr arian y rhai a adawsai Haman eu talu i drysorau y brenin am yr Iddewon, i'w difetha hwynt.
8 Ac efe a roddodd iddo destun ysgrifen y gorchymyn a osodasid yn Susan i'w dinistrio hwynt, i'w ddangos i Esther, ac i'w fynegi iddi, ac i orchymyn iddi fyned i mewn at y brenin, i ymbil ag ef, ac i ymnhedd o'i flaen ef dros ei phobl.
9 A Hathach a ddaeth ac a fynegodd i Esther eiriau Mordecai.
10 Ac Esther a ddywedodd wrth Hathach, ac a orchmynnodd iddo ddywedyd wrth Mordecai;
11 Holl weision y brenin, a phobl taleithiau y brenin, ydynt yn gwybod, mai pa ŵr bynnag, neu wraig, a ddelo i mewn at y brenin i'r cyntedd nesaf i mewn, heb ei alw, un o'i gyfreithiau ef yw ei farwolaethu ef, oddieithr yr hwn yr estynno y brenin y deyrnwialen aur iddo, fel y byddo byw: ac ni'm galwyd i ddyfod i mewn at y brenin, bellach er ys deng niwrnod ar hugain.
12 A hwy a fynegasant i Mordecai eiriau Esther.
13 Yna Mordecai a ddywedodd am iddynt ateb Esther, Na feddwl yn dy galon y dihengi yn nhŷ y brenin rhagor yr holl Iddewon.