5 A'r brenin a ddywedodd, Perwch i Haman frysio i wneuthur yn ôl gair Esther. Felly y daeth y brenin a Haman i'r wledd a wnaethai Esther.
6 A'r brenin a ddywedodd wrth Esther yng nghyfeddach y gwin, Beth yr wyt ti yn ei ofyn, ac fe a roddir i ti? a pheth yr wyt ti yn ei geisio? gofyn hyd yn hanner y frenhiniaeth, ac fe a'i cwblheir.
7 Ac Esther a atebodd, ac a ddywedodd, Fy nymuniad a'm deisyfiad yw,
8 O chefais ffafr yng ngolwg y brenin, ac o rhyglydda bodd i'r brenin roddi fy nymuniad, a gwneuthur fy neisyfiad; deled y brenin a Haman i'r wledd a arlwywyf iddynt, ac yfory y gwnaf yn ôl gair y brenin.
9 Yna Haman a aeth allan y dwthwn hwnnw yn llawen, ac yn hyfryd ei galon: ond pan welodd Haman Mordecai ym mhorth y brenin, na chyfodasai efe, ac na syflasai erddo ef, Haman a gyflawnwyd o ddicllonedd yn erbyn Mordecai.
10 Er hynny Haman a ymataliodd; a phan ddaeth i'w dŷ ei hun, efe a anfonodd, ac a alwodd am ei garedigion, a Seres ei wraig.
11 A Haman a adroddodd iddynt ogoniant ei gyfoeth, ac amldra ei feibion, a'r hyn oll y mawrhasai y brenin ef ynddynt, ac fel y dyrchafasai y brenin ef goruwch y tywysogion a gweision y brenin.