1 Felly daeth y brenin a Haman i gyfeddach gydag Esther y frenhines.
2 A dywedodd y brenin wrth Esther drachefn yr ail ddydd, wrth gyfeddach y gwin, Beth yw dy ddymuniad, Esther y frenhines? ac fe a roddir i ti; a pha beth yw dy ddeisyfiad? gofyn hyd yn hanner y deyrnas, ac fe a'i cwblheir.
3 A'r frenhines Esther a atebodd, ac a ddywedodd, O chefais ffafr yn dy olwg di, O frenin, ac o rhyglydda bodd i'r brenin, rhodder i mi fy einioes ar fy nymuniad, a'm pobl ar fy neisyfiad.
4 Canys gwerthwyd ni, myfi a'm pobl, i'n dinistrio, i'n lladd, ac i'n difetha: ond pe gwerthasid ni yn gaethweision ac yn gaethforynion, mi a dawswn â sôn, er nad yw y gwrthwynebwr yn cystadlu colled y brenin.
5 Yna y llefarodd y brenin Ahasferus, ac y dywedodd wrth Esther y frenhines, Pwy yw hwnnw? a pha le y mae efe, yr hwn a glywai ar ei galon wneuthur felly?