5 Yna y llefarodd y brenin Ahasferus, ac y dywedodd wrth Esther y frenhines, Pwy yw hwnnw? a pha le y mae efe, yr hwn a glywai ar ei galon wneuthur felly?
6 A dywedodd Esther, Y gwrthwynebwr a'r gelyn yw yr Haman drygionus hwn. Yna Haman a ofnodd gerbron y brenin a'r frenhines.
7 A'r brenin a gyfododd yn ei ddicllonedd o gyfeddach y gwin, ac a aeth i ardd y palas: a Haman a safodd i ymbil ag Esther y frenhines am ei einioes; canys efe a welodd fod drwg wedi ei baratoi yn ei erbyn ef oddi wrth y brenin.
8 Yna y dychwelodd y brenin o ardd y palas i dŷ cyfeddach y gwin. Ac yr oedd Haman wedi syrthio ar y gwely yr oedd Esther arno. Yna y dywedodd y brenin, Ai treisio y frenhines hefyd y mae efe yn tŷ gyda mi? Hwy'n gyntaf ag yr aeth y gair allan o enau y brenin, hwy a orchuddiasant wyneb Haman.
9 A Harbona, un o'r ystafellyddion, a ddywedodd yng ngŵydd y brenin, Wele hefyd y crocbren a baratôdd Haman i Mordecai, yr hwn a lefarodd ddaioni am y brenin, yn sefyll yn nhŷ Haman, yn ddeg cufydd a deugain o uchder. Yna y dywedodd y brenin, Crogwch ef ar hwnnw.
10 Felly hwy a grogasant Haman ar y pren a barasai efe ei ddarparu i Mordecai. Yna dicllonedd y brenin a lonyddodd.