8 Ysgrifennwch chwithau hefyd dros yr Iddewon fel y gweloch yn dda, yn enw y brenin, ac inseliwch â modrwy y brenin: canys yr ysgrifen a ysgrifennwyd yn enw y brenin ac a seliwyd â modrwy y brenin, ni all neb ei datroi.
9 Yna y galwyd ysgrifenyddion y brenin yr amser hwnnw yn y trydydd mis, hwnnw yw y mis Sifan, ar y trydydd dydd ar hugain ohono, ac ysgrifennwyd, yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd Mordecai, at yr Iddewon, ac at y rhaglawiaid, y penaduriaid hefyd, a thywysogion y taleithiau, y rhai oedd o India hyd Ethiopia, sef cant a saith ar hugain o daleithiau, i bob talaith wrth ei hysgrifen, ac at bob pobl yn ôl eu tafodiaith: at yr Iddewon hefyd yn ôl eu hysgrifen hwynt, ac yn ôl eu tafodiaith.
10 Ac efe a ysgrifennodd yn enw y brenin Ahasferus, ac a'i seliodd â modrwy y brenin; ac a anfonodd lythyrau gyda'r rhedegwyr yn marchogaeth ar feirch, dromedariaid, mulod, ac ebolion cesig:
11 Trwy y rhai y caniataodd y brenin i'r Iddewon, y rhai oedd ym mhob dinas, ymgynnull, a sefyll am eu heinioes, i ddinistrio, i ladd, ac i ddifetha holl allu y bobl a'r dalaith a osodai arnynt, yn blant ac yn wragedd, ac i ysglyfaethu eu hysbail hwynt;
12 Mewn un dydd, trwy holl daleithiau y brenin Ahasferus, sef ar y trydydd dydd ar ddeg o'r deuddegfed mis, hwnnw yw mis Adar.
13 Testun yr ysgrifen, i roddi gorchymyn ym mhob talaith, a gyhoeddwyd i bob rhyw bobl; ac ar fod yr Iddewon yn barod erbyn y diwrnod hwnnw i ymddial ar eu gelynion.
14 Y rhedegwyr, y rhai oedd yn marchogaeth y dromedariaid a'r mulod, a aethant ar frys, wedi eu gyrru trwy air y brenin; a'r gorchymyn a roddasid yn Susan y brenhinllys.