17 Ar y trydydd dydd ar ddeg o fis Adar y bu hyn, ac ar y pedwerydd dydd ar ddeg ohono y gorffwysasant, ac y cynaliasant ef yn ddydd gwledd a gorfoledd.
18 Ond yr Iddewon, y rhai oedd yn Susan, a ymgynullasant ar y trydydd dydd ar ddeg ohono, ac ar y pedwerydd dydd ar ddeg ohono; ac ar y pymthegfed ohono y gorffwysasant, a gwnaethant ef yn ddydd cyfeddach a llawenydd.
19 Am hynny Iddewon y pentrefi, y rhai oedd yn trigo mewn dinasoedd heb gaerau, oedd yn cynnal y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis Adar, mewn llawenydd a chyfeddach, ac yn ddiwrnod daionus, ac i anfon rhannau i'w gilydd.
20 A Mordecai a ysgrifennodd y geiriau hyn, ac a anfonodd lythyrau at yr holl Iddewon oedd trwy holl daleithiau y brenin Ahasferus, yn agos ac ymhell,
21 I ordeinio iddynt gadw y pedwerydd dydd ar ddeg o fis Adar, a'r pymthegfed dydd ohono, bob blwyddyn;
22 Megis y dyddiau y cawsai yr Iddewon ynddynt lonydd gan eu gelynion, a'r mis yr hwn a ddychwelasai iddynt o dristwch i lawenydd, ac o alar yn ddydd daionus: gan eu cynnal hwynt yn ddyddiau gwledd a llawenydd, a phawb yn anfon anrhegion i'w gilydd, a rhoddion i'r rhai anghenus.
23 A'r Iddewon a gymerasant arnynt wneuthur fel y dechreuasent, ac fel yr ysgrifenasai Mordecai atynt.