24 Canys Haman mab Hammedatha yr Agagiad, gwrthwynebwr yr holl Iddewon, a arfaethasai yn erbyn yr Iddewon, am eu difetha hwynt; ac efe a fwriasai Pwr, hwnnw yw y coelbren, i'w dinistrio hwynt, ac i'w difetha:
25 A phan ddaeth Esther o flaen y brenin, efe a archodd trwy lythyrau, ddychwelyd ei ddrwg fwriad ef, yr hwn a fwriadodd efe yn erbyn yr Iddewon, ar ei ben ei hun; a'i grogi ef a'i feibion ar y pren.
26 Am hynny y galwasant y dyddiau hynny Pwrim, ar enw y Pwr: am hynny, oherwydd holl eiriau y llythyr hwn, ac oherwydd y peth a welsent hwy am y peth hyn, a'r peth a ddigwyddasai iddynt,
27 Yr Iddewon a ordeiniasant, ac a gymerasant arnynt, ac ar eu had, ac ar yr holl rai oedd yn un â hwynt, na phallai bod cynnal y ddau ddydd hynny, yn ôl eu hysgrifen hwynt, ac yn ôl eu tymor, bob blwyddyn:
28 Ac y byddai y dyddiau hynny i'w cofio, ac i'w cynnal trwy bob cenhedlaeth, a phob teulu, pob talaith, a phob dinas; sef na phallai y dyddiau Pwrim hynny o fysg yr Iddewon, ac na ddarfyddai eu coffadwriaeth hwy o blith eu had.
29 Ac ysgrifennodd Esther y frenhines merch Abihail, a Mordecai yr Iddew, trwy eu holl rym, i sicrhau ail lythyr y Pwrim hwn.
30 Ac efe a anfonodd lythyrau at yr holl Iddewon, trwy y cant a'r saith dalaith ar hugain o frenhiniaeth Ahasferus, â geiriau heddwch a gwirionedd;