28 Ac y byddai y dyddiau hynny i'w cofio, ac i'w cynnal trwy bob cenhedlaeth, a phob teulu, pob talaith, a phob dinas; sef na phallai y dyddiau Pwrim hynny o fysg yr Iddewon, ac na ddarfyddai eu coffadwriaeth hwy o blith eu had.
29 Ac ysgrifennodd Esther y frenhines merch Abihail, a Mordecai yr Iddew, trwy eu holl rym, i sicrhau ail lythyr y Pwrim hwn.
30 Ac efe a anfonodd lythyrau at yr holl Iddewon, trwy y cant a'r saith dalaith ar hugain o frenhiniaeth Ahasferus, â geiriau heddwch a gwirionedd;
31 I sicrhau y dyddiau Pwrim hynny yn eu tymhorau, fel yr ordeiniasai Mordecai yr Iddew, ac Esther y frenhines, iddynt hwy, ac fel yr ordeiniasent hwythau drostynt eu hun, a thros eu had, eiriau yr ymprydiau a'u gwaedd.
32 Ac ymadrodd Esther a gadarnhaodd achosion y dyddiau Pwrim hynny: ac ysgrifennwyd hyn mewn llyfr.