4 Canys mawr oedd Mordecai yn nhŷ y brenin, a'i glod ef oedd yn myned trwy yr holl daleithiau: oherwydd y gŵr hwn Mordecai oedd yn myned rhagddo, ac yn cynyddu.
5 Felly yr Iddewon a drawsant eu holl elynion â dyrnod y cleddyf, a lladdedigaeth, a distryw; a gwnaethant i'w caseion yn ôl eu hewyllys eu hun.
6 Ac yn Susan y brenhinllys, yr Iddewon a laddasant ac a ddifethasant bum cant o wŷr.
7 Parsandatha hefyd, a Dalffon, ac Aspatha,
8 Poratha hefyd, ac Adalia, ac Aridatha,
9 Parmasta hefyd, ac Arisai, Aridai hefyd, a Bajesatha,
10 Deng mab Haman mab Hammedatha, gwrthwynebwr yr Iddewon, a laddasant hwy: ond nid estynasant eu llaw ar yr anrhaith.