Galarnad 5 BWM

1 Cofia, O Arglwydd, beth a ddaeth i ni: edrych a gwêl ein gwaradwydd.

2 Ein hetifeddiaeth ni a drowyd i estroniaid, a'n tai i ddieithriaid.

3 Amddifaid ydym heb dadau; ein mamau sydd megis gweddwon.

4 Yr ydym yn yfed ein dwfr am arian; ein coed sydd yn dyfod am werth.

5 Ein gwarrau sydd dan erlid; llafurio yr ydym, nid oes gorffwystra i ni.

6 Rhoesom ein llaw i'r Eifftiaid, i'r Asyriaid, i gael digon o fara.

7 Ein tadau a bechasant, ac nid ydynt: ninnau sydd yn dwyn eu cosb hwynt.

8 Gweision sydd yn llywodraethu arnom ni, heb fod a'n gwaredo o'u llaw hwynt.

9 Mewn enbydrwydd am ein heinioes y dygasom ein bara i mewn, oherwydd cleddyf yr anialwch.

10 Ein croen a dduodd fel ffwrn, gan y newyn tost.

11 Hwy a dreisiasant y gwragedd yn Seion, a'r morynion yn ninasoedd Jwda.

12 Crogasant dywysogion â'u dwylo; ni pherchid wynebau yr hynafgwyr.

13 Hwy a gymerasant y gwŷr ieuainc i falu; a'r plant a syrthiasant dan y coed.

14 Yr hynafgwyr a beidiasant â'r porth; y gwŷr ieuainc â'u cerdd.

15 Darfu llawenydd ein calon: ein dawns a drodd yn alar.

16 Syrthiodd y goron oddi am ein pen: gwae ni yn awr bechu ohonom!

17 Am hyn y mae ein calon yn ofidus; am hyn y tywyllodd ein llygaid.

18 Oherwydd mynydd Seion, yr hwn a anrheithiwyd, y mae y llwynogod yn rhodio ynddo.

19 Ti, Arglwydd, a barhei byth; dy orseddfainc yn oes oesoedd.

20 Paham yr anghofi ni byth, ac y gadewi ni dros hir ddyddiau?

21 Dychwel ni, O Arglwydd, atat ti, a ni a ddychwelir: adnewydda ein dyddiau megis cynt.

22 Eithr ti a'n llwyr wrthodaist ni: ti a ddigiaist wrthym ni yn ddirfawr.

Penodau

1 2 3 4 5