1 Ac ni fynnwn i chwi fod heb wybod, fod ein tadau oll dan y cwmwl, a'u myned oll trwy y môr;
2 A'u bedyddio hwy oll i Moses, yn y cwmwl, ac yn y môr;
3 A bwyta o bawb ohonynt yr un bwyd ysbrydol;
4 Ac yfed o bawb ohonynt yr un ddiod ysbrydol: canys hwy a yfasant o'r Graig ysbrydol a oedd yn canlyn: a'r Graig oedd Crist.
5 Eithr ni bu Dduw fodlon i'r rhan fwyaf ohonynt: canys cwympwyd hwynt yn y diffeithwch.
6 A'r pethau hyn a wnaed yn siamplau i ni, fel na chwenychem ddrygioni, megis ag y chwenychasant hwy.
7 Ac na fyddwch eilun‐addolwyr, megis rhai ohonynt hwy; fel y mae yn ysgrifenedig, Eisteddodd y bobl i fwyta ac i yfed, ac a gyfodasant i chwarae.