1 Corinthiaid 5 BWM

1 Mae'r gair yn hollol, fod yn eich plith chwi odineb, a chyfryw odineb ag na enwir unwaith ymysg y Cenhedloedd; sef cael o un wraig ei dad.

2 Ac yr ydych chwi wedi ymchwyddo, ac ni alarasoch yn hytrach, fel y tynnid o'ch mysg chwi y neb a wnaeth y weithred hon.

3 Canys myfi yn ddiau, fel absennol yn y corff, eto yn bresennol yn yr ysbryd, a fernais eisoes, fel pe bawn bresennol, am yr hwn a wnaeth y peth hwn felly,

4 Yn enw ein Harglwydd Iesu Grist, pan ymgynulloch ynghyd, a'm hysbryd innau, gyda gallu ein Harglwydd Iesu Grist,

5 Draddodi'r cyfryw un i Satan, i ddinistr y cnawd, fel y byddo'r ysbryd yn gadwedig yn nydd yr Arglwydd Iesu.

6 Nid da eich gorfoledd chwi. Oni wyddoch chwi fod ychydig lefain yn lefeinio'r holl does?

7 Am hynny certhwch allan yr hen lefain, fel y byddoch does newydd, megis yr ydych ddilefeinllyd. Canys Crist ein pasg ni a aberthwyd drosom ni:

8 Am hynny cadwn ŵyl, nid â hen lefain, nac â lefain malais a drygioni; ond â bara croyw purdeb a gwirionedd.

9 Mi a ysgrifennais atoch mewn llythyr, na chydymgymysgech â godinebwyr:

10 Ac nid yn hollol â godinebwyr y byd hwn, neu â'r cybyddion, neu â'r cribddeilwyr, neu ag eilun‐addolwyr; oblegid felly rhaid fyddai i chwi fyned allan o'r byd.

11 Ond yn awr mi a ysgrifennais atoch, na chydymgymysgech, os bydd neb a enwir yn frawd yn odinebwr, neu yn gybydd, neu yn eilun‐addolwr, neu yn ddifenwr, neu yn feddw, neu yn gribddeiliwr; gyda'r cyfryw ddyn na chydfwyta chwaith.

12 Canys beth sydd i mi a farnwyf ar y rhai sydd oddi allan? onid y rhai sydd oddi mewn yr ydych chwi yn eu barnu?

13 Eithr y rhai sydd oddi allan, Duw sydd yn eu barnu. Bwriwch chwithau ymaith y dyn drygionus hwnnw o'ch plith chwi.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16