1 Corinthiaid 16 BWM

1 Hefyd am y gasgl i'r saint; megis yr ordeiniais i eglwysi Galatia, felly gwnewch chwithau.

2 Y dydd cyntaf o'r wythnos, pob un ohonoch rhodded heibio yn ei ymyl, gan drysori, fel y llwyddodd Duw ef, fel na byddo casgl pan ddelwyf fi.

3 A phan ddelwyf, pa rai bynnag a ddangosoch eu bod yn gymeradwy trwy lythyrau, y rhai hynny a ddanfonaf i ddwyn eich rhodd i Jerwsalem.

4 Ac os bydd y peth yn haeddu i minnau hefyd fyned, hwy a gânt fyned gyda mi.

5 Eithr mi a ddeuaf atoch, gwedi yr elwyf trwy Facedonia; (canys trwy Facedonia yr wyf yn myned.)

6 Ac nid hwyrach yr arhosaf gyda chwi, neu y gaeafaf hefyd, fel y'm hebryngoch i ba le bynnag yr elwyf.

7 Canys nid oes i'm bryd eich gweled yn awr ar fy hynt; ond yr wyf yn gobeithio yr arhosaf ennyd gyda chwi, os cenhada'r Arglwydd.

8 Eithr mi a arhosaf yn Effesus hyd y Sulgwyn.

9 Canys agorwyd i mi ddrws mawr a grymus, ac y mae gwrthwynebwyr lawer.

10 Ac os Timotheus a ddaw, edrychwch ar ei fod yn ddi‐ofn gyda chwi: canys gwaith yr Arglwydd y mae yn ei weithio, fel finnau.

11 Am hynny na ddiystyred neb ef: ond hebryngwch ef mewn heddwch, fel y delo ataf fi: canys yr wyf fi yn ei ddisgwyl ef gyda'r brodyr.

12 Ac am y brawd Apolos, mi a ymbiliais lawer ag ef am ddyfod atoch chwi gyda'r brodyr: eithr er dim nid oedd ei ewyllys ef i ddyfod yr awron; ond efe a ddaw pan gaffo amser cyfaddas.

13 Gwyliwch, sefwch yn y ffydd, ymwrolwch, ymgryfhewch.

14 Gwneler eich holl bethau chwi mewn cariad.

15 Ond yr ydwyf yn atolwg i chwi, frodyr, (chwi a adwaenoch dŷ Steffanas, mai blaenffrwyth Achaia ydyw, ac iddynt ymosod i weinidogaeth y saint,)

16 Fod ohonoch chwithau yn ddarostyngedig i'r cyfryw, ac i bob un sydd yn cydweithio, ac yn llafurio.

17 Ac yr ydwyf yn llawen am ddyfodiad Steffanas, Ffortunatus, ac Achaicus: canys eich diffyg chwi hwy a'i cyflawnasant;

18 Canys hwy a esmwythasant ar fy ysbryd i, a'r eiddoch chwithau: cydnabyddwch gan hynny y cyfryw rai.

19 Y mae eglwysi Asia yn eich annerch chwi. Y mae Acwila a Phriscila, gyda'r eglwys sydd yn eu tŷ hwynt, yn eich annerch chwi yn yr Arglwydd yn fynych.

20 Y mae'r brodyr oll yn eich annerch. Annerchwch eich gilydd â chusan sancteiddol.

21 Yr annerch â'm llaw i Paul fy hun.

22 Od oes neb nid yw yn caru'r Arglwydd Iesu Grist, bydded Anathema, Maranatha.

23 Gras ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyda chwi.

24 Fy serch innau a fo gyda chwi oll yng Nghrist Iesu. Amen.Yr epistol cyntaf at y Corinthiaid a ysgrifennwyd o Philipi, gyda Steffanas, a Ffortunatus, ac Achaicus, a Thimotheus.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16