15 Dywedyd yr wyf fel wrth rai synhwyrol: bernwch chwi beth yr wyf fi yn ei ddywedyd.
16 Ffiol y fendith, yr hon a fendigwn, onid cymun gwaed Crist ydyw? y bara yr ydym yn ei dorri, onid cymun corff Crist yw?
17 Oblegid nyni yn llawer ydym un bara, ac un corff: canys yr ydym ni oll yn gyfranogion o'r un bara.
18 Edrychwch ar yr Israel yn ôl y cnawd: onid yw'r rhai sydd yn bwyta'r ebyrth, yn gyfranogion o'r allor?
19 Beth gan hynny yr ydwyf yn ei ddywedyd? bod yr eilun yn ddim, neu'r hyn a aberthwyd i eilun yn ddim?
20 Ond y pethau y mae'r Cenhedloedd yn eu haberthu, i gythreuliaid y maent yn eu haberthu, ac nid i Dduw. Ni fynnwn i chwi fod yn gyfranogion â'r cythreuliaid.
21 Ni ellwch yfed o ffiol yr Arglwydd, a ffiol y cythreuliaid: ni ellwch fod yn gyfranogion o fwrdd yr Arglwydd, a bord y cythreuliaid.