26 Canys eiddo'r Arglwydd y ddaear, a'i chyflawnder.
27 Os bydd i neb o'r rhai di‐gred eich gwahodd, ac os mynnwch fyned; bwytewch beth bynnag a rodder ger eich bron, heb ymofyn dim er mwyn cydwybod.
28 Eithr os dywed neb wrthych, Peth wedi ei aberthu i eilunod yw hwn; na fwytewch, er mwyn hwnnw yr hwn a'i mynegodd, ac er mwyn cydwybod: canys eiddo'r Arglwydd y ddaear, a'i chyflawnder.
29 Cydwybod, meddaf, nid yr eiddot ti, ond yr eiddo arall: canys paham y bernir fy rhyddid i gan gydwybod un arall?
30 Ac os wyf fi trwy ras yn cymryd cyfran, paham y'm ceblir am y peth yr wyf yn rhoddi diolch amdano?
31 Pa un bynnag gan hynny ai bwyta ai yfed, ai beth bynnag a wneloch, gwnewch bob peth er gogoniant i Dduw.
32 Byddwch ddiachos tramgwydd i'r Iddewon ac i'r Cenhedloedd hefyd, ac i eglwys Dduw: