6 A'r pethau hyn a wnaed yn siamplau i ni, fel na chwenychem ddrygioni, megis ag y chwenychasant hwy.
7 Ac na fyddwch eilun‐addolwyr, megis rhai ohonynt hwy; fel y mae yn ysgrifenedig, Eisteddodd y bobl i fwyta ac i yfed, ac a gyfodasant i chwarae.
8 Ac na odinebwn, fel y godinebodd rhai ohonynt hwy, ac y syrthiodd mewn un dydd dair mil ar hugain.
9 Ac na themtiwn Grist, megis ag y temtiodd rhai ohonynt hwy, ac a'u distrywiwyd gan seirff.
10 Ac na rwgnechwch, megis y grwgnachodd rhai ohonynt hwy, ac a'u distrywiwyd gan y dinistrydd.
11 A'r pethau hyn oll a ddigwyddasant yn siamplau iddynt hwy; ac a ysgrifennwyd yn rhybudd i ninnau, ar y rhai y daeth terfynau yr oesoedd.
12 Am hynny, yr hwn sydd yn tybied ei fod yn sefyll, edryched na syrthio.